Kenya – rhaglen 1
Mae rhaglen gyntaf y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C heno a dan ni gyd yn edrych mlaen at yr ymateb iddi. Mae’r cofnod yma yn cynnwys nifer o ddolenni perthnasol fydd o ddiddordeb os da chi’n chwilio am fwy o wybodaeth cefndir.
Os oes ‘na rhywun eisiau gwybod unrhywbeth arall, cysylltwch gan ddefnyddio un o’r amryw ffyrdd (facebook, twitter neu drwy’r blog) ac mi wnawn ni’n gorau i helpu.

Branwen Niclas, swyddog cyfathrebu efo Cymorth Cristnogol yng Nghymru sy’n teithio o Gymru efo Russell. Cymorth Cristnogol ydi’r elusen roddodd wahoddiad i ni fynd i Kenya, i ymweld ag un o’r prosiectau mae nhw’n eu cefnogi. Mae eu prif ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth at yr angen i ddileu tlodi yn y byd ac mae nhw’n gwneud hyn wrth ymgyrchu ac wrth gefnogi rhaglenni a phrosiectau sy’n cefnogi pobl yn eu cymunedau.
Wrth gasglu arian i Cymorth Cristnogol, neu wrth brynu rai o’r anrhegion rhithwir, mae pobl ym Mhrydain yn gallu cyfrannu at raglenni fel hyn.
CCS MKE ydi un o bartneriaid lleol Cymorth Cristnogol yn Kenya. Nhw sy’n derbyn peth o’r arian mae pobl yn y wlad hon yn ei gasglu. Mae ganddyn nhw orsaf hyfforddi yn agos i’r pentref lle roeddem ni’n aros. Mae nhw’n monitro sefyllfa’r ardal yn fanwl er mwyn gallu rhagweld pan fydd ‘na sychder ac yn hyfforddi pobl ar dechnegau fydd yn help iddyn nhw baratoi am hyn ac I fod yn hunan-gynhaliol.

Nôl dŵr efo Mama Muchiri
Roedd Russell a Branwen yn aros efo’r teulu Muchiri, sy’n un o 73 o deuluoedd yn yr ardal sy’n dderbyn cymorth gan CCS. Mae nhw wedi cael hadau tomatos sy’n gwrthsefyll sychder a rheiny oedd Russell yn helpu trawsblannu. Bydd y teulu yn gwerthu rhain fel bod ganddyn nhw arian i brynu bwyd pan fydd pethau’n fwy anodd.

planhigion bach ar batsh y teulu
Mae pethau’n anodd yno’n barod wrth gwrs. Llynedd mi gafodd yr ardal lifogydd gwael pan rhyddhaodd Kengen – y cwmni trydan preifat – y dŵr o’u cronfa heb rybuddio’r ffermwyr lleol. Cafodd y trasiedi ei ddilyn gan gyfnod o sychder ac mae ardal Mbeere yn gwynebu sychder mawr unwaith eto.

gwau efo'r genod
Un o’r planhigion sy’n cael ei dyfu yng nghanolfan CCS ydi Amaranthus. Roedd Russell yn esbonio ein bod ni ym Mhrydain yn tyfu hwn fel planhigyn “ornamental” yn yr ardd. Mae pobl Kenya yn gwneud defnydd da ohono wrth fwyta’r dail fel bresych a choginio’r hadau mewn rhyw fath o uwd I’r plant. Mae’r hadau yn llawn protin, ac mae diffyg maeth yn broblem cynyddol yn yr ardal, yn enwedig pan fo pethau’n mynd yn anodd.
Mae’r stori yma yn un bositif am ddwy ddynes o Kenya sydd wedi dechrau busnes yn tyfu Amaranthus….ac mae na drafod difyr ar y peth ar y fforym yma…
Mi fydd ‘na chydig o drydar byw yn ystod y rhaglen, gobeithio y gwelwn ni chi yno…